Masnach ryngwladol
Ers i’r penderfyniad gael ei wneud i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae NFU Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cynrychioli buddiannau aelodau i Lywodraeth Cymru a’r DU, cymryd rhan a chynrychioli barn y sector yn y grwpiau rhanddeiliaid perthnasol a nodi anghenion ffermwyr Cymru o ran masnachu gyda’r UE a gweddill y byd.