Bu aelodau’r undeb yn mynegi eu pryderon fod Cyngor Sir Ceredigion yn y man cyntaf wedi dewis cynnig smwddis ceirch yn unig ar ei stondyn Pentref Ceredigion yn yr Eisteddfod, sydd yn cael ei gynnal eleni ar fferm laeth yn Nhregaron.
Mae NFU Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion ac wedi cyfarfod â chynrychiolwyr yr awdurdod lleol sydd ar Y Maes er mwyn trafod y mater. Mae’r undeb yn falch y bu yna gydnabyddiaeth o bryderon yr aelodau, ac y bod Cyngor Sir Ceredigion nawr yn cynnig opsiynau gyda llaeth ac heb laeth i ymwelwyr Pentref Ceredigion.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones:
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru, ac y mae amaeth yn rhan annatod o gymunedau gwledig Cymru.
“Tra ein bod wrth gwrs yn cydnabod ei fod yn bwysig i’r awdurdod ddarparu ystod o opsiynau er mwyn darparu ar gyfer plant gydag anghenion bwyta penodol neu’r rhai sydd yn dewis peidio yfed llaeth am resymau eraill, mae’n drueni bod y cyngor yn gychwynnol wedi methu cynnig cyfle i blant yfed smwddis o laeth lleol blasus, sydd yn ffynhonell wych o brotein, calsiwm, fitamin B a maetholion buddiol eraill.
“Rydym, fodd bynnag, yn falch fod pryderon ffermwyr ac ymwelwyr eraill i’r Eisteddfod wedi eu cydnabod ac y bydd y cyngor nawr yn cynnig opsiwn i blant yfed llaeth buwch ffres, iachus a llawn maeth yn eu smwddis dros weddill yr ŵyl. Mae’n anffodus bod yr esgeulustod cychwynol hwn wedi tynnu oddi ar weddill yr hyn sydd i’w brofi ar y stondin, gan gynnwys cynnyrch lleol ac arddangosiadau coginio a bywyd gwledig.
“Mae NFU Cymru yn disgwyl yn eiddgar cyfarfod dilynol gyda Chyngor Sir Ceredigion wedi diwedd yr Eistedfod Genedlaethol er mwyn trafod materion eraill sydd yn bwysig i’r gymuned amaethyddol, gan gynnwys polisïau caffael bwyd y cyngor, materion cynllunio ac effaith polisïau’r dyfodol ar ffermwyr Ceredigion.”