Mae NFU Cymru wedi lansio ymgyrch newydd gyffrous sy’n hyrwyddo bwyd o Gymru ac sy’n tynnu sylw at y gefnogaeth aruthrol a geir ymysg y cyhoedd i gynhyrchiant bwyd yng Nghymru.


Ar y tudalen yma:


Mae'r ymgyrch Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru yn cael ei hyrwyddo ledled Cymru. Mae’r undeb wedi bod yn gofyn am gefnogaeth ei aelodau ledled Cymru i gyflwyno baneri giât ar briffyrdd amlwg ar draws y wlad, ac roedd hysbysebion ar sgriniau digidol yn cael eu rhedeg mewn ardaloedd trefol gan gynnwys Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr mewn ardaloedd trefol yn ymwybodol o’r ymgyrch hefyd.

Pethau allech chi wneud i helpu i ddiogelu dyfodol bwyd Cymru

Mae aelodau NFU Cymru yn cael eu hannog i roi’r cychwyn gorau i’r ymgyrch drwy lofnodi’r ddeiseb cyn gynted â phosibl ac yna hyrwyddo tudalen y ddeiseb i’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gallu casglu cynifer o addewidion o gefnogaeth â phosibl.

  1. Llofnodwch y ddeiseb HEDDIW a defnyddio’r botymau rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eich ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud yr un peth.
  2. Ewch i diwedd y tudalen yma i weld pa ddeunyddiau y gallwch chi eu defnyddio i hyrwyddo’r ymgyrch i’r cyhoedd.
  3. Llwythwch un o bosteri’r ymgyrch i lawr a’i argraffu i’w roi mewn lle amlwg, mynegwch eich diddordeb mewn gosod baner ar giât ar ochr y ffordd neu casglwch sticer car o’ch swyddfa NFU Cymru/NFU Mutual leol.
  4. Torrwch allan un o’r posteri hun-lun yn y rhifyn Gorffennaf o Farming Wales (tudalennau 11-12) a phostiwch lun i gefnogi’r ymgyrch ar eich cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DiogeluBwydCymru ynghyd â dolen i dudalen deiseb NFU Cymru.
  5. Oes gennych chi fwthyn gwyliau neu fenter arallgyfeirio ar eich fferm? Llwythwch i lawr un o’r taflenni addewid a fwriedir ar gyfer ymwelwyr sy’n annog eich gwesteion i fwynhau bwyd o Gymru yn ystod eu gwyliau gyda chi ac i lofnodi deiseb yr ymgyrch hefyd.
  6. Yn ymweld â’ch siop fferm neu’ch cigydd lleol? Anogwch nhw i gymryd rhan yn yr ymgyrch os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny’n barod.

Fideo’r ymgyrch

aled jones 01

Dywedodd Aled Jones, Llywydd NFU Cymru: “Boed e’n Gig Oen a Chig Eidion Cymru PGI byd-enwog, yn Datws cynnar PGI Sir Benfro, yn gig dofednod neu’n wyau, yn llaeth Cymreig blasus, iach, ein cawsiau blasus Cymreig, ein cnydau grawn neu’r genhinen fach ddi-nod – mae Cymru yn enwog am fwyd lleol o ansawdd uchel. Mae’n rhywbeth y gall y wlad gyfan fod yn falch ohono.

“Dros y flwyddyn diwethaf, gwelwyd cynnydd aruthrol yng nghefnogaeth y cyhoedd i fwyd o Gymru a ffermwyr Cymru. Fe wnaeth yr arolwg o ddefnyddwyr y gwnaethom ei gynnal y gaeaf diwethaf dynnu sylw at y ffaith bod 82% o drigolion Cymru yn gefnogol i’r llywodraeth roi cyllid i ffermwyr i gynhyrchu bwyd, ac mae cefnogaeth pobl Cymru wedi bod yn allweddol yn y protestiadau a welsom gan y diwydiant yn gynharach eleni. Gwn hefyd fod aelodau a staff NFU Cymru wedi cael eu syfrdanu gan yr ymateb cadarnhaol i arddangosfa’r undeb o 5,500 o welis ar risiau’r Senedd ym mis Mawrth. Mae hyn i gyd yn pwyntio at y ffaith bod bwyd o Gymru yn bwysig iawn i drigolion Cymru a’u bod am weld ffermwyr yn cael eu cefnogi i ddal ati i gynhyrchu’r bwyd hwnnw.

“Nod ein hymgyrch Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru yw ceisio dod â’r diwydiant at ei gilydd a dangos y gefnogaeth aruthrol sydd yna i fwyd a gynhyrchir yng Nghymru gan ffermwyr ein gwlad. Yr ymdeimlad o undod ymysg ffermwyr Cymru fu eu cryfder mwyaf erioed, mae’n bryd defnyddio’r pŵer cyfunol hwnnw i weithio gyda’n gilydd i wneud yr ymgyrch hwn yn llwyddiant gyda’r cyhoedd. Llofnodwch y ddeiseb heddiw ac yna gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gael pawb arall i wneud yr un peth.”


 

nfu22 abi reader 04

Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru: “Cafwyd llawer o ddadlau am ddyfodol y polisi ffermio yng Nghymru dros fisoedd lawer. Mae’n gliriach nag erioed o’r blaen fod y pryderon ynghylch effaith y polisïau hynny ar allu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn cael eu rhannu nid yn unig ymysg y diwydiant, ond ymysg y cyhoedd hefyd. Fel ffermwyr, mae sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed fel rhan o’n hymdrechion i Ddiogelu Dyfodol Bwyd Cymru er budd pawb ohonom.

“Ar adeg pan mae cynhyrchiant bwyd o dan straen ym mhob cwr o’r byd oherwydd effeithiau newid hinsawdd a gwrthdaro byd-eang, ni allwn fforddio llesteirio’r gwaith o gynhyrchu bwyd diogel o ansawdd uchel a wneir mewn hinsawdd sy’n berffaith ar gyfer cynhyrchu llaeth, cig, tatws, cnydau a llysiau. Mae ein hasedau naturiol yma yng Nghymru, sef glawiad uchel a thwf glaswellt toreithiog, yn golygu y gall ein ffermwyr yn hawdd honni eu bod yn cynhyrchu rhai o fwydydd mwyaf eco-gyfeillgar y byd. Rydym mewn sefyllfa dda i gyflawni ein huchelgeisiau ond mae angen inni sicrhau bod polisi Cymru yn cyd-fynd â’r weledigaeth honno sy’n rhoi bwyd yn gyntaf.

“Mae angen i gynifer o bobl â phosibl lofnodi’r ddeiseb ar wefan NFU Cymru, naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg, er mwyn ennyn y gefnogaeth hon i fwyd o Gymru a sicrhau bod hynny ym meddyliau’r llunwyr polisïau pan fyddant yn cwblhau cynlluniau i’r dyfodol. Nid oes dim amheuaeth bod y cyhoedd yng Nghymru eisiau i’r cynlluniau hyn alluogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel.”

Deunyddiau’r ymgyrch i’w llwytho i lawr neu eu harchebu

Rydym wedi creu nifer o adnoddau ymgyrchu ar gyfer aelodau, bwytai a’r cyhoedd. 

Sticeri: Os oes gennych ddigwyddiad wedi’i drefnu ac os hoffech gael sticeri i helpu i hyrwyddo bwyd o Gymru, anfonwch e-bost ar [email protected] gyda’ch enw, eich cyfeiriad, manylion y digwyddiad a faint o sticeri yr hoffech chi gael.

Arwydd trelar: Anfonwch ebost i [email protected] i gadarnhau arwydd erbyn y sioe fawr.

Posteri twristiaeth a siopau fferm: Os oes gennych fenter dwristiaeth, neu siop fferm, llwythwch ein posteri i lawr a’u harddangos.

Posteri i ffermwyr: Mae’r posteri hyn ar gael yn rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn Farming Wales neu gallwch eu llwytho i lawr isod. Tynnwch lun o ardal o’r fferm rydych chi’n arbennig o falch ohoni a’i bostio gyda’n poster gan ddefnyddio’r hashnod #DiogeluBwydCymru


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.