Mae'r wobr, sydd eleni yn dathlu chwe blynedd ar hugain, yn ceisio hyrwyddo'r cyfraniad y mae merched yn ei wneud i'r diwydiant amaethyddol ac i godi proffil merched ym myd amaeth.
Mwy am Meinir
Fe wnaeth Meinir, sydd wedi’i magu ar fferm bîff a defaid ei theulu, gael ei hysbrydoliaeth gan ei mam, Doris, a oedd yn gweithio’n llawn amser ar y fferm. Er iddi wneud yn siŵr bod gan ei merch opsiynau eraill a’i hannog i fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg ochr yn ochr â ffilm a theledu, roedd Meinir bob amser yn gwybod bod ffermio yn ei gwaed ac y byddai’n ffermio ei hun un diwrnod.
Mae Meinir yn ffermwraig gweithgar, ymarferol. Ynghyd â’i gŵr Gary, maent yn rhedeg diadell bur yn bennaf yn ogystal ag ychydig o ddefaid masnachol, gan gynhyrchu tua 130 o hyrddod bridio blwydd y flwyddyn. Mae ganddynt hefyd fuches o heffrod bîff, y maent yn eu magu, eu lloia ac yna eu gwerthu, buches sugno fasnachol a buches o wartheg Aberdeen Angus pur, yn ogystal â 12 o ferlod Shetland a mochyn.
Defaid ar y fferm
Mae'r pâr, sydd â dau o blant ifanc, Sioned , sy’n wyth oed a Dafydd, sy’n chwech oed, hefyd yn cadw mamogiaid Texel, Suffolk, Charolais, Beltex, Wyneblas Caerlŷr a Balwen pur. Bellach mae’r rhain yn cael eu gwerthu o gartref yn bennaf a thrwy farchnata Meinir ar y cyfryngau cymdeithasol maent wedi gwerthu hyrddod i Argyle, yr Alban, Dyfnaint a hyd yn oed Estonia. Mae newydd orffen ei hail gyfnod fel Cadeirydd Cymdeithas y Balwen, ar ôl dechrau ei diadell pan oedd yn blentyn, mae Meinir wedi ennill Pencampwriaeth Sioe Frenhinol Cymru yn y gorffennol yn ogystal â bod yn Bencampwr Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad nifer o weithiau.
Meinir yw’r sbardun i lwyddiant arwerthiannau ar y fferm y pâr, gan eu cynnal gartref am y pedair blynedd diwethaf. Fel rhan o’r arwerthiannau hyn, cynhaliwyd diwrnod agored NFU Cymru a thaith o amgylch y fferm, taith dractorau a nifer o gyngherddau, gan godi arian at nifer o elusennau gan gynnwys Canser y Fron Cymru, Tir Dewi, Canser y Prostad, Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes Cymru. Mae dros £50,000 wedi’i godi hyd yma.
Nodau hinsawdd ac amgylcheddol
Er mwyn cyflawni eu nodau hinsawdd ac amgylcheddol, mae Meinir a Gary wedi sicrhau bod y fferm wedi ffensio 4,000m o wrychoedd gan ddefnyddio dull ffensio dwbl, wedi plannu tua 11,000 o goed mewn gwrychoedd, gan ffensio tir garw a’i adael i natur ffynnu. Bellach mae ganddyn nhw hefyd 15 cwch gwenyn ar y fferm ac mae Meinir yn gwerthu’r mêl yn y gymuned leol.
Oddi ar y fferm, mae Meinir yn gweithio’n rhan amser fel cyflwynydd teledu, gan ganolbwyntio’n bennaf ar raglenni amaethyddol, lle mae’n anelu at ddangos gwaith caled, ymroddiad ac angerdd ffermwyr o bob rhan o Gymru. Mae'n cyflwyno o'r Sioe Frenhinol ar gyfer y darllediadau byw ar S4C ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar Ffermio ar S4C. Mae teulu'r Howells hefyd yn ymddangos mewn rhaglen ar S4C o'r enw Teulu Shadog: Blwyddyn ar y Fferm. Mae'r rhaglen hon yn dangos y pethau da a’r pethau drwg a realiti ffermio ac mae newydd gael ei hadnewyddu ar gyfer pedwaredd gyfres.
Mae Meinir yn wyneb cyfarwydd mewn ysgolion lleol, yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddefnyddwyr a ffermwyr ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd. Cynhaliodd hefyd ddiwrnod agored ar gyfer ysgol leol ar y fferm, lle croesawyd cannoedd o blant ysgol gynradd i Shadog i gael cipolwg ar sut beth yw bywyd ar fferm yn Sir Gaerfyrddin mewn gwirionedd. Mae hi hefyd yn gweithio’n agos gyda chlybiau CFfI lleol i ddysgu barnu stoc, siarad cyhoeddus ac mae wedi beirniadu nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd.
Y beirniaid
Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd a beirniad y wobr NFU Cymru: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Meinir yw enillydd Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn Cymru. Mae Meinir yn eiriolwr cryf dros ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth Cymru, boed hynny trwy gynhyrchu da byw o’r safon uchaf ar y fferm, ei gwaith oddi ar y fferm fel cyflwynydd teledu amaethyddol, neu ei gwaith gydag ysgolion lleol a’r CFfI. Roedd ei hangerdd dros y diwydiant yn amlwg i’w weld ac mae hi’n credu bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gadw a gwella bioamrywiaeth a’r ecosystemau, yn ogystal â chynhyrchu bwyd o safon uchel.
“Mae'n amlwg bod gan Meinir syniadau arloesol ynghylch sut i gyflwyno’r neges ffermio i lu o bobl ac mae'n sbardun gwirioneddol i lwyddiant Shadog. Ar ôl ymweld â’i fferm, roedd yn amlwg ei bod yn enillydd teilwng iawn y wobr Ffermwraig y Flwyddyn Cymru.”
Ychwanegodd ei chyd-feirniad Heather Holgate sy’n cynrychioli noddwyr gwobrau NFU Mutual yn ei rôl fel Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru / NFU Mutual yn Nhregaron: “Mae wedi bod yn bleser helpu i feirniadu Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru/NFU Mutual Wales a gweld dros fy hun yr amrywiaeth enfawr o dalent sydd gennym ymhlith merched yn amaethyddiaeth Cymru. Roedd safon y ceisiadau yn eithriadol o uchel, a oedd yn gwneud ein rôl fel beirniaid yn un bleserus a heriol yn gyfartal.
“Fodd bynnag, roedd Abi a minnau’n gytûn mai Meinir oedd y dewis o’r cynigion ar gyfer y wobr eleni. Roedd ei hangerdd a’i hymroddiad i’r diwydiant, nid yn unig wrth ofalu am ei stoc a’r amgylchedd, ond hefyd ei hagwedd tuag at addysgu eraill ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd a sut mae’n cael ei gynhyrchu yn amlwg yn ystod ein hymweliad â’i fferm. Mae hi’n eiriolwr gwirioneddol wych i’n diwydiant.”
Cyflwynwyd dysgl grisial o Gymru i Meinir a gwobr ariannol o £500 i ddathlu ei llwyddiant.