Cyfarfod Sirol NFU Cymru Canolbarth Gwynedd ar-lein

17 Tachwedd 2020

Fe’ch gwahoddir i ymuno gyda ni ar Nos Fawrth 24ain o Dachwedd am 7:00yh pan fyddwn yn croesawu Arwel Jones o Gynllun SMS Tir a Môr Llyn atom.

Oherwydd y sefyllfa bresennol bydd cyfarfodydd NFU Cymru yn cymryd lle ar-lein drwy ‘Microsoft Teams’.

Mae Arwel wedi bod yn arwain y prosiect ers nifer o flynyddoedd,  Partneriaeth Tirwedd Llyn sy’n arwain y prosiect cydweithredol hwn ac mae grwpiau statudol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol yn rhan ohono. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatrys problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal.

Mae’n hynod amserol i ni allu clywed gan Arwel gan fod y cynllun yma wedi bod yn gweithredu y syniad o ‘dalu am ganlyniadau’, sydd yn ddyhead gan Lywodraeth Cymru fel olyniaeth i’r Cynllun BPS.

Disgwylir y byddant yn cyhoeddi eu Papur Gwyn ar y cynllun arfaethedig cyn diwedd y flwyddyn. 

Rho’r sgwrs yma gyda Arwel gyfle i weld sut gall cynllun o’r fath weithio i ffermwyr.  Mae Arwel yn un o’r ychydig bobl sydd wedi bod yn gweithredu cynllun talu am ganlyniadau ar ffermydd drwy Gymru.  Bydd yn gallu amlinellu sut gall y math yma o gynllun weithio ar raddfa ehangach.

Mae’r cynllun wedi denu sylw Llywodraeth Cymru ers peth amser ac mae hwythau wedi cesio dysgu o’r profiad ar Benrhyn Llyn.

Dyma’r enghraifft weithredol orau gallwch ei chael o sut gallai eich taliadau fod yn cael eu cynnig i chi yn y dyfodol.

Dywedodd Edward Griffith, Cadeirydd Cangen NFU Cymru Canolbarth Gwynedd: “Hyderwn y gwenwch ymdrech i ymuno hefo ni – y bwriad ydi ei gadw yn gyfarfod byr ac i bwrpas. Bydd manylion i ymuno gyda’r cyfarfod yn cael eu gyrru i holl aelodau Canolbarth Gwynedd cyn y cyfarfod. Edrychaf ymlaen i’ch gweld a’ch clywed ar y noson.”


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.