Mae’r apêl deganau yn chwilio am filoedd o deganau, o deganau fferm llaw i dractorau reidio, i grynhoi effaith arfaethedig newidiadau Llywodraeth y DU i’r dreth etifeddiaeth ar ffermydd teuluol. Bydd y casgliad mawr trawiadol o deganau yn rhan o arddangosfa yng Nghanolfan QEII yn Llundain ar ddiwrnod Cynhadledd yr NFU (dydd Mawrth 25 Chwefror), ochr yn ochr ag arddangosfa yn dangos sut mae peiriannau fferm wedi esblygu dros genedlaethau.
Ar ddydd Gwener 7 Chwefror fe lansiodd NFU Cymru ei apêl casglu yn ei rwydwaith o swyddfeydd 31 ledled Cymru, gan gynnwys ei bencadlys ar Faes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, LD2 3TU. Mae'r undeb yn gofyn i'r rhoddion fod yn gyfan a heb unrhyw ymylon miniog neu ddarnau ar goll. Dylid pacio rhoddion mewn bagiau neu focsys cadarn i atal difrod wrth gael eu cludo. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn y rhoddion teganau yw dydd Mercher 19eg Chwefror.
Dywedodd Aled Jones, Llywydd, NFU Cymru “Rydym yn gofyn i bobl ledled Cymru anfon eu hoff deganau fferm atom fel y gallwn ddangos i Drysorlys y DU yr effaith y bydd y polisi anystyriol hwn yn ei gael ar genedlaethau o ffermydd teuluol.
"Ewch â'ch tractorau tegan i'ch swyddfa NFU Cymru/NFU Mutual lleol erbyn dydd Mercher 19 Chwefror. Gyda'n gilydd gallwn wneud hwn yn ddatganiad gweledol amlwg o wrthwynebiad y diwydiant i dreth fferm deuluol Llywodraeth y DU."
Rhodd tegan NFU Cymru a'r arddangos dilynol yw’r gweithgaredd diweddaraf o nifer gan NFU yn lobïo yn dilyn cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref y llynedd, pan gyflwynodd y Canghellor gynlluniau ar gyfer newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR). Dywed undebau amaeth y gallai’r newidiadau ddifrodi ffermydd teuluol yng Nghymru a ledled y DU, gyda data’n dangos y gallai effeithio ar 75% o fusnesau fferm.
Gall ffermwyr a chefnogwyr yr ymgyrch Stopiwch y Dreth Fferm Deuluol ddod o hyd i awgrymiadau rhoddion a gwybodaeth am fannau casglu yng Nghymru ar wefan NFU Cymru.