Ar 10 Rhagfyr 1908, cynhaliwyd cyfarfod mewn rhagsiambr yn Sioe Smithfield i drafod pe bai modd ffurfio sefydliad cenedlaethol i gynrychioli buddiannau ffermwyr. Y canlyniad oedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sef, yr NFU.
Gweithiodd Llywydd cyntaf yr Undeb, Colin Campbell, yn ddiflino i gychwyn canghennau newydd, annog aelodaeth ac i sefydlu credadwyaeth yr NFU gyda Llywodraeth yn ystod cyfnod pan oedd ffermio yn dioddef y dirwasgiad mwyaf hir a dwfn yn ei hanes, wrth i fewnforion o rawn rhad a chig rhewedig lifo i’r wlad o dramor.
O’r dechreuadau diymhongar ac anodd hynny y tyfodd yr NFU i fod yn un o’r cymdeithasau masnach fwyaf effeithiol ac uchel ei pharch ym Mhrydain.
Mabwysiadwyd NFU Cymru
Y sir Gymreig gyntaf i ymuno â’r NFU oedd Brycheiniog a Maesyfed ym 1908 a dilynwyd hi gan weddill y siroedd yn ystod yr ychydig flynyddoedd ar ôl hynny. Ym 1968, etholodd Cyngor Cymru ei Gadeirydd cyntaf o blith ei aelodau ac felly cychwynwyd y traddodiad hir o Gadeiryddion a Llywyddion yn yr NFU yng Nghymru.
Mabwysiadwyd yr enw NFU Cymru ym 1999 ar yr un pryd â dyfodiad datganoli llywodraeth yng Nghymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyn Cadeiryddion a Llywyddion NFU Cymru:
Cadeiryddion:
1968 - 1970: Sir Meuric Rees
1971 - 1973: Idris Davies
1974 - 1976: D.L. Carey Evans
1977 - 1979: T.W. Rosser
1980 - 1982: J. Gwyn Griffiths
1982 - 1984: Alun Evans
1985 - 1987: Maurice Trumper
1988 - 1990: T. Geraint Davies
1991 - 1993: E. Trevor Davies
1994 - 1997: John Lloyd Jones
Llywyddion:
1998 - 2001: Hugh Richards
2002 - 2005: Peredur Hughes
2006 - 2010: Dai Davies
2010 - 2014: Edmund Bailey
2014 - 2018: Stephen James
2018 - 2022: John Davies
2022 - yn bresenol: Aled Jones
Canmlwyddiant yr NFU yn 2008
Dathlodd NFU ei Chanmlwyddiant yn 2008 – lawrlwythwch linell amser ein hanes yma.
Un o’r sawl modd i’r NFU ddathlu’r digwyddiad oedd trwy gyhoeddi llyfr cynhwysfawr yn adrodd hanes yr NFU.
Mae From Campbell to Kendall: A History of the NFU a ysgrifenwyd gan Is-lywydd yr NFU Guy Smith, yn gatalog deniadol o hanes ffermio ym Mhrydain. Yn llawn dop o luniau hanesyddol, cartwnau a bywgraffiadau Llywyddion yr NFU, gallir cael y llyfr clawr caled drwy Amazon yma.